Salm 68:31-35 beibl.net 2015 (BNET)

31. Bydd llysgenhadon yn dod o'r Aifft,a bydd pobl Affrica yn brysio i dalu teyrnged i Dduw.

32. Canwch i Dduw, chi wledydd y byd!Canwch fawl i'r ARGLWYDD. Saib

33. I'r un sy'n marchogaeth drwy'r awyr –yr awyr sydd yno o'r dechrau.Gwrandwch! Mae ei lais nerthol yn taranu.

34. Cyfaddefwch mor rymus ydy Duw!Mae e'n teyrnasu yn ei holl ysblander dros Israel,ac yn dangos ei rym yn yr awyr.

35. O Dduw, rwyt ti'n syfrdanol yn dod allan o dy gysegr!Ie, Duw Israel sy'n rhoi grym a nerth i'w bobl.Boed i Dduw gael ei anrhydeddu!

Salm 68