Salm 66:7-20 beibl.net 2015 (BNET)

7. Mae e'n dal i deyrnasu yn ei nerth,ac mae'n cadw ei lygaid ar y cenhedloedd;felly peidiwch gwrthryfela a chodi yn ei erbyn. Saib

8. O bobloedd, bendithiwch ein Duw ni;gadewch i ni glywed pobl yn ei foli!

9. Fe sy'n ein cadw ni'n fyw;dydy e ddim wedi gadael i'n traed lithro.

10. Ti wedi ein profi ni, O Dduw,a'n puro ni fel arian mewn ffwrnais.

11. Ti wedi ein dal ni mewn rhwyd,a gwneud i ni ddioddef baich trwm.

12. Ti wedi gadael i bobl farchogaeth troson ni.Dŷn ni wedi bod trwy ddŵr a thân,ond ti wedi dod â ni trwy'r cwbl i brofi digonedd.

13. Dw i'n dod i dy deml ag offrymau llosgac yn cadw fy addewidion,

14. drwy wneud popeth wnes i addopan oeddwn i mewn trafferthion.

15. Dw i'n dod ag anifeiliaid wedi eu pesgi yn offrymau llosg –arogl hyrddod yn cael eu llosgi,teirw a bychod geifr yn cael eu haberthu. Saib

16. Dewch i wrando, chi sy'n addoli Duw,i mi ddweud wrthoch chi beth wnaeth e i mi.

17. Dyma fi'n gweiddi'n uchel arno am help– roeddwn i'n barod i'w foli.

18. Petawn i'n euog o feddwl yn ddrwg amdano,fyddai'r ARGLWYDD ddim wedi gwrando arna i.

19. Ond dyma Duw yn clywed;a gwrando ar fy ngweddi.

20. Mae Duw yn haeddu ei foli!Wnaeth e ddim diystyru fy ngweddi,na bod yn anffyddlon i mi.

Salm 66