Salm 66:2-14 beibl.net 2015 (BNET)

2. Canwch gân i ddweud mor wych ydy e,a'i foli'n hyfryd.

3. Dwedwch wrth Dduw,“Mae dy weithredoedd di mor syfrdanol!Am dy fod ti mor rymus mae dy elynion yn crynu o dy flaen.

4. Mae'r byd i gyd yn dy addoli,ac yn canu mawl i ti!Maen nhw'n dy foli di ar gân!” Saib

5. Dewch i weld beth wnaeth Duw.Mae'r hyn wna ar ran pobl yn syfrdanol.

6. Trodd y môr yn dir sych,a dyma nhw'n cerdded drwy'r afon!Gadewch i ni ddathlu'r peth!

7. Mae e'n dal i deyrnasu yn ei nerth,ac mae'n cadw ei lygaid ar y cenhedloedd;felly peidiwch gwrthryfela a chodi yn ei erbyn. Saib

8. O bobloedd, bendithiwch ein Duw ni;gadewch i ni glywed pobl yn ei foli!

9. Fe sy'n ein cadw ni'n fyw;dydy e ddim wedi gadael i'n traed lithro.

10. Ti wedi ein profi ni, O Dduw,a'n puro ni fel arian mewn ffwrnais.

11. Ti wedi ein dal ni mewn rhwyd,a gwneud i ni ddioddef baich trwm.

12. Ti wedi gadael i bobl farchogaeth troson ni.Dŷn ni wedi bod trwy ddŵr a thân,ond ti wedi dod â ni trwy'r cwbl i brofi digonedd.

13. Dw i'n dod i dy deml ag offrymau llosgac yn cadw fy addewidion,

14. drwy wneud popeth wnes i addopan oeddwn i mewn trafferthion.

Salm 66