Salm 66:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwaeddwch yn uchel i Dduw,holl bobl y byd!

2. Canwch gân i ddweud mor wych ydy e,a'i foli'n hyfryd.

3. Dwedwch wrth Dduw,“Mae dy weithredoedd di mor syfrdanol!Am dy fod ti mor rymus mae dy elynion yn crynu o dy flaen.

4. Mae'r byd i gyd yn dy addoli,ac yn canu mawl i ti!Maen nhw'n dy foli di ar gân!” Saib

5. Dewch i weld beth wnaeth Duw.Mae'r hyn wna ar ran pobl yn syfrdanol.

6. Trodd y môr yn dir sych,a dyma nhw'n cerdded drwy'r afon!Gadewch i ni ddathlu'r peth!

7. Mae e'n dal i deyrnasu yn ei nerth,ac mae'n cadw ei lygaid ar y cenhedloedd;felly peidiwch gwrthryfela a chodi yn ei erbyn. Saib

8. O bobloedd, bendithiwch ein Duw ni;gadewch i ni glywed pobl yn ei foli!

9. Fe sy'n ein cadw ni'n fyw;dydy e ddim wedi gadael i'n traed lithro.

Salm 66