Salm 65:10-13 beibl.net 2015 (BNET)

10. Ti'n socian y cwysiac mae dŵr yn llifo i'r rhychau.Ti'n mwydo'r tir â chawodydd,ac yn bendithio'r cnwd sy'n tyfu.

11. Dy ddaioni di sy'n coroni'r flwyddyn!Mae dy lwybrau'n diferu digonedd!

12. Mae hyd yn oed porfa'r anialwch yn diferu,a'r bryniau wedi eu gwisgo â llawenydd!

13. Mae'r caeau wedi eu gorchuddio gyda defaid a geifr,a'r dyffrynnoedd yn gwisgo mantell o ŷd.Maen nhw'n gweiddi ac yn canu'n llawen.

Salm 65