1. Safwn yn dawel, a dy addoli yn Seion, O Dduw;a chyflawni'n haddewidion i ti.
2. Ti sy'n gwrando gweddïau,boed i bob person byw ddod atat ti!
3. Pan mae'n holl bechodau yn ein llethu ni,rwyt ti'n maddau'r gwrthryfel i gyd.
4. Y fath fendith sydd i'r rhai rwyt ti'n eu dewis,a'u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml.Llenwa ni â bendithion dy dŷ,sef dy deml sanctaidd!
5. Ti'n gwneud pethau syfrdanol i wneud pethau'n iawn,a'n hateb O Dduw, ein hachubwr.Mae pobl drwy'r byd i gyd,ac ymhell dros y môr, yn dibynnu arnat ti.
6. Ti, yn dy nerth, roddodd y mynyddoedd yn eu lle;Rwyt ti mor gryf!
7. Ti sy'n tawelu'r môr stormus,a'i donnau gwyllt,a'r holl bobloedd sy'n codi terfysg.
8. Mae pobl ym mhen draw'r bydwedi eu syfrdanu gan dy weithredoedd.O'r dwyrain i'r gorllewinmaen nhw'n gweiddi'n llawen.
9. Ti'n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrioa'i gwneud yn hynod ffrwythlon.Mae'r sianel ddwyfol yn gorlifo o ddŵr!Ti'n rhoi ŷd i bobldrwy baratoi'r tir fel yma.
10. Ti'n socian y cwysiac mae dŵr yn llifo i'r rhychau.Ti'n mwydo'r tir â chawodydd,ac yn bendithio'r cnwd sy'n tyfu.