Salm 63:2-11 beibl.net 2015 (BNET)

2. Ydw, dw i wedi dy weld di yn y cysegr,a gweld dy rym a dy ysblander!

3. Profi dy ffyddlondeb di ydy'r peth gorau am fywyd,ac mae fy ngwefusau'n dy foli di!

4. Dw i'n mynd i dy foli fel yma am weddill fy mywyd;codi fy nwylo mewn gweddi, a galw ar dy enw.

5. Dw i wedi fy modloni'n llwyr, fel ar ôl bwyta gwledd!Dw i'n canu mawl i ti â gwefusau llawen.

6. Dw i'n meddwl amdanat wrth orwedd ar fy ngwely,ac yn myfyrio arnat ti yng nghanol y nos;

7. Dw i'n cofio fel y gwnest ti fy helpu –ron i'n gorfoleddu,yn saff dan gysgod dy adenydd.

8. Dw i am lynu'n dynn wrthot ti;dy law gref di sy'n fy nghynnal i.

9. Bydd y rhai sy'n ceisio fy lladd iyn mynd i lawr yn ddwfn i'r ddaear.

10. Bydd y rhai sydd am fy nharo gyda'r cleddyfyn cael eu gadael yn fwyd i siacaliaid.

11. Ond bydd y brenin yn dathlu beth wnaeth Duw.Bydd pawb sy'n tyngu llw iddo yn gorfoleddu,pan fydd e'n cau cegau y rhai celwyddog!

Salm 63