Salm 59:9-13 beibl.net 2015 (BNET)

9. Ti ydy fy nerth i. Dw i'n disgwyl amdanat ti.Rwyt ti, O Dduw, fel craig ddiogel i mi.

10. Ti ydy'r Duw ffyddlon fydd yn fy helpu;byddi'n gadael i mi orfoleddu dros fy ngelynion.

11. Paid lladd nhw'n syth, neu bydd fy mhobl yn anghofio'r wers.Anfon nhw ar chwâl gyda dy nerth, cyn eu llorio nhw,O ARGLWYDD, ein tarian.

12. Gad iddyn nhw gael eu baglugan eu geiriau pechadurusa'r pethau drwg maen nhw'n ddweud –y balchder, y melltithion a'r celwyddau.

13. Dinistria nhw yn dy lid!Difa nhw'n llwyr!Yna bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybodfod Duw yn teyrnasu dros bobl Jacob. Saib

Salm 59