1. Achub fi rhag fy ngelynion, O Dduw.Amddiffyn fi rhag y rhai sy'n ymosod arna i.
2. Achub fi rhag y bobl ddrwg yma –y rhai sy'n ceisio fy lladd i.
3. Edrych arnyn nhw'n cuddio.Maen nhw'n barod i ymosod.Mae dynion cas yn disgwyl amdana i,a minnau heb wneud dim bydi'w croesi nhw, O ARGLWYDD.
4. Dw i ddim ar faiond maen nhw'n rhuthro i ymosod arna i.Deffra! Gwna rywbeth i'm helpu!
5. O ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,ti ydy Duw Israel.Symud! Tyrd i gosbi'r gwledydd!Paid dangos trugaredd at y bradwyr! Saib
6. Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel y cŵnsy'n prowla trwy'r ddinas.
7. Mae eu cegau'n glafoerio budreddi,a'u geiriau creulon fel cleddyfau –“Pwy sy'n clywed?” medden nhw.
8. Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin ar eu pennau.Byddi di'n gwawdio'r cenhedloedd.
9. Ti ydy fy nerth i. Dw i'n disgwyl amdanat ti.Rwyt ti, O Dduw, fel craig ddiogel i mi.
10. Ti ydy'r Duw ffyddlon fydd yn fy helpu;byddi'n gadael i mi orfoleddu dros fy ngelynion.