Salm 58:2-8 beibl.net 2015 (BNET)

2. Na! Dych chi'n anghyfiawn,ac yn lledu trais ym mhobman.

3. Mae rhai drwg felly yn troi cefn ers cael eu geni;yn dweud celwydd a mynd eu ffordd eu hunain o'r dechrau.

4. Maen nhw'n brathu fel neidr wenwynig,neu gobra sy'n cau ei chlustiau.

5. Mae'n gwrthod gwrando ar alaw y swynwr,er mor hyfryd ydy'r alaw i'w hudo.

6. Torra eu dannedd nhw, O Dduw!Dryllia ddannedd y llewod ifanc, ARGLWYDD.

7. Gwna iddyn nhw ddiflannu fel dŵr mewn tir sych;gwna iddyn nhw saethu saethau wedi eu torri.

8. Gwna nhw fel ôl malwen yn toddi wrth iddi symud;neu blentyn wedi marw yn y groth cyn gweld golau dydd!

Salm 58