1. Dangos drugaredd ata i, O Dduw,dangos drugaredd ata i!Dw i'n troi atat ti am loches.Dw i am guddio dan dy adenydd dines bydd y storm yma wedi mynd heibio.
2. Dw i'n galw ar Dduw, y Goruchaf;ar y Duw sydd mor dda tuag ata i.
3. Bydd yn anfon help o'r nefoedd i'm hachub.Bydd yn herio y rhai sy'n fy erlid. Saib Bydd yn dangos ei ofal ffyddlon amdana i!