1. Gwrando ar fy ngweddi, O Dduw;paid diystyru fi'n galw am dy help!
2. Gwranda arna i, ac ateb fi.Mae'r sefyllfa yma yn fy llethu;dw i wedi drysu'n lân!
3. Mae'r gelyn yn gweiddi arna i,ac yn bygwth pob math o ddrwg.Dŷn nhw ond eisiau creu helyntac ymosod arna i yn wyllt.
4. Mae fy nghalon yn rasio tu mewn i mi.Mae ofn marw wedi mynd yn drech na mi.
5. Mae ofn a dychryn wedi fy llethu i –dw i'n methu stopio crynu!
6. “O na fyddai gen i adenydd fel colomen,i mi gael hedfan i ffwrdd a gorffwys!
7. Byddwn i'n hedfan yn bell i ffwrdd,ac yn aros yn yr anialwch. Saib
8. Byddwn i'n brysio i ffwrdd i guddio,ymhell o'r storm a'r cythrwfl i gyd.”
9. Dinistria nhw ARGLWYDD;a drysu eu cynlluniau nhw!Dw i'n gweld dim byd ond trais a chweryla yn y ddinas.
10. Mae milwyr yn cerdded ei waliau i'w hamddiffyn ddydd a nos,ond y tu mewn iddi mae'r drwg go iawn.
11. Pobl yn bygwth ei gilydd ym mhobman –dydy gormes a thwyll byth yn gadael ei strydoedd!
12. Nid y gelyn sy'n fy ngwawdio i– gallwn oddef hynny;Nid y gelyn sy'n fy sarhau i– gallwn guddio oddi wrth hwnnw;
13. Na! Ti, sy'n ddyn fel fi,yn gyfaill agos; fy ffrind i!
14. Roedd dy gwmni di mor felyswrth i ni gerdded gyda'n gilydd yn nhŷ Dduw.
15. Gad i'r gelynion yn sydyn gael eu taro'n farw!Gad i'r bedd eu llyncu nhw'n fyw!Does dim ond drygioni ble bynnag maen nhw!