Salm 52:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wyt ti'n falch o'r drwg wnest ti,ac yn meddwl dy fod ti'n dipyn o arwr?Wel, dw i'n gwybod fod Duw yn ffyddlon!

2. Rwyt ti'n cynllwynio dinistr,ac mae dy dafod di fel rasel finiog, y twyllwr!

3. Mae drwg yn well na da gen ti,a chelwydd yn well na dweud y gwir. Saib

4. Ti'n hoffi dweud pethau sy'n gwneud niwed i bobl,ac yn twyllo pobl.

5. Ond bydd Duw yn dy daro i lawr unwaith ac am byth!Bydd yn dy gipio allan o dy babell,ac yn dy lusgo i ffwrdd o dir y byw. Saib

6. Bydd y rhai sy'n iawn gyda Duw yn gweld y peth,ac wedi eu syfrdanu.Byddan nhw'n chwerthin ar dy ben, ac yn dweud,

Salm 52