1. O Dduw, dangos drugaredd ata i;rwyt ti mor llawn cariad.Gan dy fod ti mor barod i dosturio,wnei di ddileu y gwrthryfel oedd yno i?
2. Golcha'r drygioni ohono i'n llwyr,a pura fi o'm pechod.
3. Dw i'n cyfaddef mod i wedi tynnu'n groes,a dw i'n ymwybodol iawn o'm methiant.
4. Yn dy erbyn di dw i wedi pechu, ie, dim ond ti,a gwneud beth sy'n ddrwg yn dy olwg.Mae beth rwyt ti'n ddweud yn hollol deg,ac rwyt ti'n iawn i'm cosbi i.
5. Y gwir ydy, ces fy ngeni'n bechadur;roedd y pechod yno pan wnaeth mam feichiogi arna i.
6. Ond rwyt ti eisiau gonestrwydd y tu mewn;rwyt ti eisiau i mi fod yn ddoeth.
7. Pura fi ag isop, i'm gwneud yn hollol lân;golcha fi, nes bydda i'n lanach nag eira.
8. Gad i mi wybod beth ydy bod yn hapus eto;rwyt ti wedi malu fy esgyrn – gad i mi lawenhau eto.
9. Paid edrych ar fy mhechodau i;dilea'r drygioni i gyd.
10. Crea galon lân yno i, O Dduw;a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto.
11. Paid taflu fi i ffwrdd oddi wrthot ti,na chymryd dy Ysbryd Glân oddi arna i.
12. Gad i mi brofi'r wefr eto o gael fy achub gen ti;a gwna fi'n awyddus i fod yn ufudd i ti.
13. Wedyn bydda i'n dysgu'r rhai sy'n gwrthryfela i dy ddilyn di,a bydd pechaduriaid yn troi atat ti.
14. Maddau i mi am fod wedi tywallt gwaed, O Dduw.Ti ydy'r Duw sy'n fy achub i,a bydda i'n canu am dy faddeuant di.
15. O ARGLWYDD, agor fy ngeg,i mi gael dy foli.