Salm 50:21-23 beibl.net 2015 (BNET)

21. Am fy mod i'n dawel pan wnest ti'r pethau hyn,roeddet ti'n meddwl fy mod i'r un fath â ti!Ond dw i'n mynd i dy geryddu di,a dwyn cyhuddiadau yn dy erbyn di.

22. Felly meddylia am y peth, ti sy'n anwybyddu Duw!Neu bydda i'n dy rwygo di'n ddarnau,a fydd neb yn gallu dy achub di!

23. Mae'r un sy'n cyflwyno offrwm diolch yn fy anrhydeddu i.Bydd y person sy'n byw fel dw i am iddo fywyn cael gweld Duw yn dod i'w achub.”

Salm 50