Salm 50:11-21 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dw i'n nabod pob un o adar y mynydd,a fi piau'r pryfed yn y caeau!

12. Petawn i eisiau bwyd, fyddwn i ddim yn gofyn i ti,gan mai fi piau'r byd a phopeth sydd ynddo.

13. Ydw i angen cig eidion i'w fwyta,neu waed bychod geifr i'w yfed? – Na!

14. Cyflwyna dy offrwm diolch i Dduw,a chadw dy addewidion i'r Goruchaf.

15. Galw arna i pan wyt mewn trafferthion,ac fe wna i dy achub di, a byddi'n fy anrhydeddu i.”

16. Ond dyma ddwedodd Duw wrth y rhai drwg:“Pa hawl sydd gen ti i sôn am fy nghyfriethiau,a thrafod yr ymrwymiad wnaethon ni?

17. Dwyt ti ddim eisiau dysgu gen i;dwyt ti'n cymryd dim sylw o beth dw i'n ddweud!

18. Pan wyt ti'n gweld lleidr, rwyt ti'n ei helpu.Ti'n cymysgu gyda dynion sy'n anffyddlon i'w gwragedd.

19. Ti'n dweud pethau drwg o hyd,ac yn twyllo pobl wrth siarad.

20. Ti'n cynllwyn yn erbyn dy frawd,ac yn gweld bai ar fab dy fam.

21. Am fy mod i'n dawel pan wnest ti'r pethau hyn,roeddet ti'n meddwl fy mod i'r un fath â ti!Ond dw i'n mynd i dy geryddu di,a dwyn cyhuddiadau yn dy erbyn di.

Salm 50