Salm 50:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae Duw, y Duw go iawn, sef yr ARGLWYDD, wedi siarad,ac wedi galw pawb drwy'r byd i gyd i ddod at ei gilydd.

2. Mae Duw yn dod o Seion, y ddinas harddaf un;mae wedi ymddangos yn ei holl ysblander!

3. Mae ein Duw yn dod, a fydd e ddim yn dawel –mae tân yn difa popeth o'i flaen,ac mae storm yn rhuo o'i gwmpas.

4. Mae'n galw ar y nefoedd uchod,a'r ddaear isod, i dystio yn erbyn ei bobl.

5. “Galwch fy mhobl arbennig i mewn,y rhai sydd wedi ymrwymo i mi drwy aberth.”

6. Yna dyma'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn,am mai Duw ydy'r Barnwr. Saib

7. “Gwrandwch yn ofalus, fy mhobl! Dw i'n siarad!Gwrando Israel! Dw i'n tystio yn dy erbyn di!Duw ydw i, dy Dduw di!

8. Dw i ddim yn dy geryddu di am aberthu i mi,nac am gyflwyno offrymau i'w llosgi yn rheolaidd.

9. Ond does gen i ddim angen dy darw di,na bwch gafr o dy gorlannau –

Salm 50