Salm 5:7-11 beibl.net 2015 (BNET)

7. Ond dw i'n gallu mynd i mewn i dy dŷ diam fod dy gariad di mor anhygoel.Plygaf i addoli mewn rhyfeddod yn dy deml sanctaidd.

8. O ARGLWYDD, arwain fi i wneud beth sy'n iawn.Mae yna rai sy'n fy ngwylio i ac am ymosod arna i;plîs symud y rhwystrau sydd ar y ffordd o'm blaen i.

9. Achos dŷn nhw ddim yn dweud y gwir;eu hawydd dyfnaf ydy dinistrio pobl!Mae eu geiriau'n drewi fel bedd agored;a'u tafodau slic yn gwneud dim byd ond seboni.

10. Dinistria nhw, O Dduw!Gwna i'w cynlluniau nhw eu baglu!Tafla nhw i ffwrdd am eu bod wedi tynnu'n groes gymaint!Maen nhw wedi gwrthryfela yn dy erbyn di!

11. Ond gad i bawb sy'n troi atat tiam loches fod yn llawen!Gad iddyn nhw orfoleddu am byth!Cysgoda drostyn nhw,er mwyn i'r rhai sy'n caru dy enw di gael dathlu.

Salm 5