1. Gwranda ar beth dw i'n ddweud, O ARGLWYDD;ystyria yn ofalus beth sy'n fy mhoeni i.
2. Cymer sylw ohono i'n gweiddi am help,oherwydd arnat ti dw i'n gweddïofy Mrenin a'm Duw.
3. Gwranda arna i ben bore, O ARGLWYDD;Dw i'n pledio fy achos wrth iddi wawrio,ac yn disgwyl am ateb.
4. Dwyt ti ddim yn Dduw sy'n mwynhau drygioni;dydy pobl ddrwg ddim yn gallu aros yn dy gwmni.
5. Dydy'r rhai sy'n brolio ddim yn gallu sefyll o dy flaen di;ti'n casáu'r rhai sy'n gwneud drwg.
6. Byddi'n dinistrio'r rhai sy'n dweud celwydd;mae'n gas gen ti bobl sy'n dreisgar ac yn twyllo, O ARGLWYDD.
7. Ond dw i'n gallu mynd i mewn i dy dŷ diam fod dy gariad di mor anhygoel.Plygaf i addoli mewn rhyfeddod yn dy deml sanctaidd.
8. O ARGLWYDD, arwain fi i wneud beth sy'n iawn.Mae yna rai sy'n fy ngwylio i ac am ymosod arna i;plîs symud y rhwystrau sydd ar y ffordd o'm blaen i.
9. Achos dŷn nhw ddim yn dweud y gwir;eu hawydd dyfnaf ydy dinistrio pobl!Mae eu geiriau'n drewi fel bedd agored;a'u tafodau slic yn gwneud dim byd ond seboni.