5. Pam ddylwn i ofni'r amserau anoddpan mae drygioni'r rhai sy'n twyllo yn fy mygwth?
6. Maen nhw'n dibynnu ar eu cyfoeth,ac yn brolio'r holl bethau sydd ganddyn nhw.
7. Ond all dyn ddim ei ryddhau ei hun,na thalu i Dduw i'w ollwng yn rhydd!
8. (Mae pris bywyd yn rhy uchel;waeth iddo adael y mater am byth!)
9. Ydy e'n mynd i allu byw am byth,a pheidio gweld y bedd?
10. Na, mae hyd yn oed pobl ddoeth yn marw!Mae bywyd ffyliaid gwyllt yn dod i ben,ac maen nhw'n gadael eu cyfoeth i eraill.