Salm 49:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwrandwch ar hyn, chi'r bobloedd;clywch, bawb drwy'r byd i gyd –

2. pobl o bob cefndiryn gyfoethog ac yn dlawd.

3. Dw i'n mynd i rannu doethineb gyda chi,a dweud pethau dwfn.

4. Dw i'n mynd i ddysgu cân am ddoethineb,a'i chanu i gyfeiliant y delyn.

5. Pam ddylwn i ofni'r amserau anoddpan mae drygioni'r rhai sy'n twyllo yn fy mygwth?

6. Maen nhw'n dibynnu ar eu cyfoeth,ac yn brolio'r holl bethau sydd ganddyn nhw.

Salm 49