Salm 48:3-12 beibl.net 2015 (BNET)

3. Mae Duw yn byw yn ei chaerau,ac mae'n adnabyddus fel caer ddiogel.

4. Edrychwch! Mae brenhinoedd yn ffurfio cynghrair,ac yn dod i ymosod gyda'i gilydd.

5. Ond ar ôl ei gweld roedden nhw'n fud,wedi dychryn am eu bywydau,ac yn dianc mewn panig!

6. Roedden nhw'n crynu trwyddynt,ac yn gwingo fel gwraig yn geni plentyn,

7. neu longau Tarshish yn cael eu drylliogan wynt y dwyrain.

8. Dŷn ni bellach yn dystioni'r math o beth y clywson ni amdano;yn ninas yr ARGLWYDD holl-bwerus,sef dinas ein Duw –mae e wedi ei gwneud hi'n ddiogel am byth! Saib

9. O Dduw, dŷn ni wedi bod yn myfyrio yn dy demlam dy ofal ffyddlon.

10. O Dduw, rwyt ti'n enwog drwy'r byd i gyd,ac yn haeddu dy foli!Rwyt ti yn sicrhau cyfiawnder.

11. Mae mynydd Seion yn gorfoleddu!Mae pentrefi Jwda yn llawen,o achos beth wnest ti.

12. Cerdda o gwmpas Seion,dos reit rownd!Cyfra'r tyrau,

Salm 48