10. O Dduw, rwyt ti'n enwog drwy'r byd i gyd,ac yn haeddu dy foli!Rwyt ti yn sicrhau cyfiawnder.
11. Mae mynydd Seion yn gorfoleddu!Mae pentrefi Jwda yn llawen,o achos beth wnest ti.
12. Cerdda o gwmpas Seion,dos reit rownd!Cyfra'r tyrau,
13. edrych yn fanwl ar ei waliau,a dos drwy ei chaerau,er mwyn i ti allu dweud wrth y genhedlaeth nesa.
14. Dyma sut un ydy Duw, ein Duw ni, bob amser.Bydd e'n ein harwain ni tra byddwn ni byw.