Salm 47:2-7 beibl.net 2015 (BNET)

2. Mae'r ARGLWYDD Goruchaf yn Dduw i'w ryfeddu,ac yn Frenin mawr dros y byd i gyd.

3. Mae'n gwneud i bobloedd ymostwng i ni;ni sy'n eu rheoli nhw.

4. Dewisodd dir yn etifeddiaeth i ni –tir i Jacob, y bobl mae wedi eu caru, ymfalchïo ynddo. Saib

5. Mae Duw wedi esgyn i'w orsedd, a'r dyrfa'n gweiddi'n llawen.Aeth yr ARGLWYDD i fyny, a'r corn hwrdd yn seinio!

6. Canwch fawl i Dduw, canwch!Canwch fawl i'n brenin ni, canwch!

7. Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd;Canwch gân hyfryd iddo!

Salm 47