Salm 45:5-17 beibl.net 2015 (BNET)

5. Bydd dy saethau miniogyn trywanu calonnau dy elynion,a bydd pobloedd yn syrthio wrth dy draed.

6. Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth;a byddi di'n teyrnasu mewn ffordd sy'n deg.

7. Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni;felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio dia thywallt olew llawenydd arnat ti fwy na neb arall.

8. Mae arogl hyfryd myrr, aloes a casiaar dy ddillad i gyd.Mae offerynnau llinynnol o balasau iforiyn cael eu canu i dy ddifyrru di.

9. Mae tywysogesau ymhlith dy westeion,ac mae dy briodferch yn sefyll wrth dy ochr,yn gwisgo tlysau o aur coeth Offir.

10. Clyw, o dywysoges!Gwrando'n astud!Anghofia dy bobl a dy deulu.

11. Gad i'r brenin gael ei hudo gan dy harddwch!Fe ydy dy feistr di bellach, felly ymostwng iddo.

12. Bydd pobl gyfoethog Tyrus yn ceisio dy ffafr,ac yn dod ag anrhegion i ti.

13. Mae'r dywysoges yn anhygoel o hardd,a'i gwisg briodas wedi ei brodio gyda gwaith aur manwl.

14. Mae hi'n cael ei harwain at y brenin,ac mae gosgordd o forynion yn ei dilyn,i'w chyflwyno i ti.

15. Maen nhw'n llawn bwrlwm wrth gael eu harwaini mewn i balas y brenin.

16. Bydd dy feibion yn dy olynu yn llinach dy hynafiaid,ac yn cael eu gwneud yn dywysogion yn y wlad.

17. Bydda i'n coffáu dy enw di ar hyd y cenedlaethau,a bydd pobloedd yn dy ganmol di am byth bythoedd.

Salm 45