Salm 45:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae gen i destun cerdd hyfryd yn fy ysbrydoli.Dw i am adrodd fy marddoniaeth i'r brenin;Mae fy nhafod fel ysgrifbin yn llaw awdur profiadol.

2. Ti ydy'r dyn mwya golygus sydd,ac mae dy eiriau mor garedig.Mae'n dangos fod Duw wedi dy fendithio di bob amser.

3. Gwisga dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr!Dangos dy ysblander a dy fawredd.

4. Dangos dy fawredd! Dos allan i ennill buddugoliaeth!Marchoga dros y gwir a thros gyfiawnder.Trwy dy nerth byddi'n cyflawni pethau rhyfeddol!

5. Bydd dy saethau miniogyn trywanu calonnau dy elynion,a bydd pobloedd yn syrthio wrth dy draed.

6. Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth;a byddi di'n teyrnasu mewn ffordd sy'n deg.

Salm 45