Salm 44:14-26 beibl.net 2015 (BNET)

14. Mae'r cenhedloedd i gyd yn ein gwawdio ni;pobl estron yn gwneud hwyl ar ein pennau ni.

15. Does gen i ddim mymryn o urddas ar ôl.Dw i'n teimlo dim byd ond cywilydd

16. o flaen y gelyn dialgarsy'n gwawdio ac yn bychanu.

17. Mae hyn i gyd wedi digwydd i ni,er na wnaethon ni dy wrthod dina thorri amodau ein hymrwymiad i ti.

18. Dŷn ni ddim wedi bod yn anffyddlon i ti,nac wedi crwydro oddi ar dy lwybrau di.

19. Ac eto rwyt ti wedi'n sathru ni,a'n gadael ni fel adfail lle mae'r siacaliaid yn byw.Rwyt wedi'n gorchuddio ni gyda thywyllwch dudew.

20. Petaen ni wedi anghofio enw Duwac estyn ein dwylo mewn gweddi at ryw dduw arall,

21. oni fyddai Duw wedi gweld hynny?Mae e'n gwybod beth sy'n mynd trwy'n meddyliau ni!

22. O'th achos di dŷn ni'n wynebu marwolaeth drwy'r amser,dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i'r lladd-dy.

23. Symud! O ARGLWYDD, pam wyt ti'n cysgu?Deffra! Paid gwrthod ni am byth!

24. Pam wyt ti'n edrych i ffwrdd,ac yn cymryd dim sylw o'r ffordd dŷn ni'n cael ein cam-drin a'n gorthrymu?

25. Dŷn ni'n gorwedd ar ein hwynebau yn y llwch,ac yn methu codi oddi ar lawr.

26. Tyrd, helpa ni!Dangos dy ofal ffyddlon, a gollwng ni'n rhydd.

Salm 44