1. Dŷn ni wedi clywed, O Dduw,ac mae'n hynafiaid wedi dweud wrthon nibeth wnest ti yn eu dyddiau nhw,ers talwm.
2. Gyda dy nerth symudaist genhedloedd,a rhoi ein hynafiaid yn y tir yn eu lle.Gwnaethost niwed i'r bobl oedd yn byw yno,a gollwng ein hynafiaid ni yn rhydd.
3. Nid eu cleddyf roddodd y tir iddyn nhw;wnaethon nhw ddim ennill y frwydr yn eu nerth eu hunain.Na! dy nerth di, dy allu di,dy ffafr di tuag atyn nhw wnaeth y cwbl!Roeddet ti o'u plaid nhw.
4. Ti ydy fy mrenin i, O Dduw;yr un sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i bobl Jacob!
5. Ti sy'n ein galluogi ni i yrru'n gelynion i ffwrdd.Gyda dy nerth di dŷn ni'n sathru'r rhai sy'n ein herbyn.
6. Dw i ddim yn dibynnu ar fy mwa;ac nid cleddyf sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i mi.
7. Ti sy'n rhoi'r fuddugoliaeth dros y gelyn.Ti sy'n codi cywilydd ar y rhai sy'n ein casáu ni.
8. Duw ydy'r un i frolio amdano bob amser!Dw i am foli ei enw'n ddi-baid. Saib
9. Ond bellach rwyt ti wedi'n gwrthod ni,a'n cywilyddio ni!Dwyt ti ddim yn mynd allan gyda'n byddin ni.
10. Ti'n gwneud i ni ffoi oddi wrth ein gelynion.Mae'n gelynion wedi cymryd popeth oddi arnon ni!
11. Rwyt wedi'n rhoi fel defaid i'w lladd a'u bwyta.Rwyt wedi'n chwalu ni drwy'r gwledydd.
12. Rwyt wedi gwerthu dy bobl am y nesa peth i ddim,wnest ti ddim gofyn pris uchel amdanyn nhw.
13. Rwyt wedi'n dwrdio ni o flaen ein cymdogion.Dŷn ni'n destun sbort i bawb o'n cwmpas.
14. Mae'r cenhedloedd i gyd yn ein gwawdio ni;pobl estron yn gwneud hwyl ar ein pennau ni.