Salm 40:12-14 beibl.net 2015 (BNET)

12. Mae peryglon di-ben-draw o'm cwmpas i ym mhobman.Mae fy mhechodau wedi fy nal i.Maen nhw wedi fy nallu!Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen!Dw i wedi dod i ben fy nhennyn!

13. Plîs, ARGLWYDD, achub fi!O ARGLWYDD, brysia i'm helpu!

14. Gwna i'r rhai sydd am fy lladd ideimlo embaras a chywilydd.Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i midroi yn ôl mewn cywilydd.

Salm 40