1. Ar ôl disgwyl yn frwd i'r ARGLWYDD wneud rhywbeth,dyma fe'n troi ata i;roedd wedi gwrando arna i'n gweiddi am help.
2. Cododd fi allan o'r pwll lleidiog,a'r mwd trwchus.Rhoddodd fy nhraed ar graig,a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu.
3. Roedd gen i gân newydd i'w chanu –cân o fawl i Dduw!Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e,ac yn dod i drystio'r ARGLWYDD!
4. Mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD wedi ei fendithio'n fawr!Dydy e ddim yn troi am help at boblsy'n brolio'u hunain ac yn dweud celwydd.
5. O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint! –gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni.Does neb yn gallu dy rwystro di!Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill,ond mae yna ormod ohonyn nhw i'w cyfrif!
6. Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau;Mae hynny'n gwbl amlwg i mi!Dim am aberthau i'w llosgi ac offrymau dros bechod rwyt ti'n gofyn.
9. Dw i wedi dweud wrth y gynulleidfa fawr am dy gyfiawnder!Dw i wedi dal dim yn ôl!Ti'n gwybod hynny, O ARGLWYDD.
10. Wnes i ddim cadw'r peth i mi fy hun;ond dweud wrth bawb dy fod ti'n Dduw ffyddlon ac yn achub!Dw i ddim wedi cadw'n dawel am dy ofal ffyddlon di.
11. Tyrd, ARGLWYDD, paid atal dy dosturi oddi wrtho i.Dy ofal ffyddlon di fydd yn fy amddiffyn i bob amser.
12. Mae peryglon di-ben-draw o'm cwmpas i ym mhobman.Mae fy mhechodau wedi fy nal i.Maen nhw wedi fy nallu!Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen!Dw i wedi dod i ben fy nhennyn!