Salm 39:4-9 beibl.net 2015 (BNET)

4. “O ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt?faint o amser sydd gen i ar ôl?Bydda i wedi mynd mewn dim o amser!

5. Ti wedi gwneud bywyd mor fyr.Dydy oes rhywun yn ddim byd yn dy olwg di.Mae bywyd y cryfaf yn mynd heibio fel tarth!” Saib

6. Mae pobl yn pasio trwy fywyd fel cysgodion.Maen nhw'n casglu cyfoeth iddyn nhw eu hunain,heb wybod pwy fydd yn ei gymryd yn y diwedd.

7. Beth alla i bwyso arno, felly, O ARGLWYDD?Ti dy hun ydy fy unig obaith i!

8. Achub fi rhag canlyniadau fy ngwrthryfel.Paid gadael i ffyliaid wneud hwyl ar fy mhen.

9. Dw i'n fud, ac yn methu dweud dimo achos beth rwyt ti wedi ei wneud.

Salm 39