17. Dw i'n darfod amdana i!Dw i mewn poen ofnadwy drwy'r adeg.
18. Dw i'n cyfaddef mod i wedi gwneud drwg.Dw i'n poeni am fy mhechod.
19. Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos!Cymaint o rai sy'n fy nghasáu i am ddim rheswm!
20. Pobl sy'n talu drwg am dda,ac yn tynnu'n groes am i mi geisio gwneud beth sy'n iawn.
21. Paid gadael fi, ARGLWYDD!O Dduw, paid ti cadw draw!
22. Brysia! Helpa fi,O ARGLWYDD, fy achubwr!