Salm 38:15-21 beibl.net 2015 (BNET)

15. Ond ARGLWYDD, dw i'n disgwyl amdanat ti;byddi di'n eu hateb nhw, fy meistr a'm Duw.

16. Dw i'n gweddïo, “Paid rhoi'r pleser iddyn nhw o gael eu ffordd!”Roedden nhw mor falch, ac yn gwawdio pan wnes i lithro!

17. Dw i'n darfod amdana i!Dw i mewn poen ofnadwy drwy'r adeg.

18. Dw i'n cyfaddef mod i wedi gwneud drwg.Dw i'n poeni am fy mhechod.

19. Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos!Cymaint o rai sy'n fy nghasáu i am ddim rheswm!

20. Pobl sy'n talu drwg am dda,ac yn tynnu'n groes am i mi geisio gwneud beth sy'n iawn.

21. Paid gadael fi, ARGLWYDD!O Dduw, paid ti cadw draw!

Salm 38