Salm 38:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i,a dweud y drefn yn dy wylltineb.

2. Mae dy saethau wedi fy anafu;mae dy law wedi fy nharo i.

3. Dw i'n sâl yn gorfforol o achos dy ddigofaint di!Does dim iechyd yn fy esgyrn am fy mod wedi pechu.

4. Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i;mae fel baich sy'n rhy drwm i'w gario.

5. Mae'r briwiau ar fy nghorff wedi casglu a dechrau drewi;a'r cwbl am fy mod i wedi bod mor dwp.

6. Dw i wedi crymu. Mae gen i gywilydd ohona i'n hun.Dw i'n cerdded o gwmpas yn isel fy ysbryd drwy'r dydd.

7. Mae fy ochrau'n boenus i gyd;dw i'n teimlo'n sâl trwyddo i.

8. Mae rhyw boen mud yn fy llethu'n llwyr.Dw i'n griddfan mewn gwewyr meddwl.

9. O ARGLWYDD, ti'n gwybod yn iawn be dw i eisiau!Rwyt ti wedi clywed fi'n griddfan.

10. Mae fy nghalon i'n curo'n gyflym;does gen i ddim nerth, a dw i'n colli fy ngolwg.

11. Mae fy ffrindiau a'm teulu yn cadw draw oddi wrtho i;a'm cymdogion yn sefyll yn bell i ffwrdd.

12. Mae'r rhai sydd am fy lladd i yn gosod trap i mi,a'r rhai sydd am wneud niwed i mi yn siarad y faleisusac yn dweud pethau twyllodrus drwy'r adeg.

13. Ond dw i'n ymateb fel tawn i'n fyddar – yn gwrthod gwrando.Dw i'n ymddwyn fel rhywun sy'n fud – yn dweud dim.

14. Dw i'n clywed dim,a dw i ddim am ddadlau gyda nhw.

Salm 38