5. Rho dy hun yn nwylo'r ARGLWYDDa'i drystio fe; bydd e'n gweithredu ar dy ran di.
6. Bydd e'n achub dy gam di o flaen pawb!Bydd y ffaith fod dy achos yn gyfiawnmor amlwg a'r haul ganol dydd.
7. Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD.Paid digio pan wyt ti'n gweld pobl eraill yn llwyddowrth ddilyn eu cynlluniau cyfrwys.
8. Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer.Paid digio. Drwg ddaw iddyn nhw'n y diwedd!
9. Bydd pobl ddrwg yn cael eu taflu allan,ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDDyn meddiannu'r tir!
10. Fydd y rhai drwg ddim i'w gweld yn unman mewn ychydig!Byddi'n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd.
11. Ond bydd y rhai sy'n cael eu cam-drin yn meddiannu'r tir,ac yn cael mwynhau heddwch a llwyddiant.
12. Mae'r rhai drwg yn cynllwynio yn erbyn y rhai sy'n byw yn iawn,ac yn ysgyrnygu eu dannedd fel anifeiliaid gwylltion.
13. Ond mae'r ARGLWYDD yn chwerthin ar eu pennau!Mae e'n gwybod fod eu tro nhw'n dod!
14. Mae'r rhai drwg yn tynnu eu cleddyfau, ac yn plygu eu bwâu,i daro i lawr y rhai sy'n cael eu gorthrymu ac sydd mewn angen,ac i ladd y rhai sy'n byw'n gywir.
15. Ond byddan nhw'n cael eu trywanu gan eu cleddyfau eu hunain,a bydd eu bwâu yn cael eu torri!