Salm 37:20-30 beibl.net 2015 (BNET)

20. Ond bydd y rhai drwg yn marw.Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu difa,fel gwellt yn cael ei losgi mewn ffwrn.

21. Mae pobl ddrwg yn benthyg heb dalu'r ddyled yn ôl;ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn hael ac yn dal ati i roi.

22. Bydd y bobl mae Duw'n eu bendithio yn meddiannu'r tir,ond y rhai mae'n eu melltithio yn cael eu gyrru i ffwrdd.

23. Mae'r ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiantyr un sy'n byw i'w blesio.

24. Bydd yn baglu weithiau, ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb,achos mae'r ARGLWYDD yn gafael yn ei law.

25. Roeddwn i'n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed.Dw i erioed wedi gweld rhywun sy'n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw,na'i blant yn gorfod chwilio am fwyd.

26. Mae bob amser yn hael ac yn benthyg i eraill,ac mae ei blant yn cael eu bendithio.

27. Tro dy gefn ar ddrwg a gwna beth sy'n dda,a byddi'n saff am byth.

28. Mae'r ARGLWYDD yn caru beth sy'n gyfiawn,a dydy e byth yn siomi'r rhai sy'n ffyddlon iddo.Maen nhw'n saff bob amser!Ond bydd plant y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.

29. Bydd y rhai sy'n byw yn iawn yn meddiannu'r tir,ac yn aros yno am byth.

30. Mae pobl dduwiol yn dweud beth sy'n ddoeth,ac yn hybu cyfiawnder.

Salm 37