1. O ARGLWYDD, delia gyda'r rhai sy'n ymladd yn fy erbyn!Ymosod ar y rhai sy'n ymosod arna i!
2. Coda dy darian fach a'r un fawr,a tyrd yma i'm helpu i!
3. Defnyddia dy waywffon a dy bicellyn erbyn y rhai sydd ar fy ôl i.Gad i mi dy glywed di'n dweud, “Gwna i dy achub di!”
4. Rhwystra'r rhai sydd am fy lladd i;coda gywilydd arnyn nhw!Gwna i'r rhai sydd eisiau gwneud niwed i midroi'n ôl mewn dychryn.
5. Gwna nhw fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd gan y gwyntwrth i angel yr ARGLWYDD ymosod arnyn nhw!
6. Pan fydd angel yr ARGLWYDD yn mynd ar eu holau,gwna eu llwybr nhw yn dywyll ac yn llithrig!
7. Roedden nhw wedi gosod rhwyd i'm dal i,a hynny am ddim rheswm!Roedden nhw wedi cloddio twll i mi ddisgyn iddo.
8. Gwna i drychineb annisgwyl ddod ar eu traws nhw!Gad iddyn nhw gael eu dal yn eu rhwyd eu hunain!Gwna iddyn nhw ddisgyn i lawr i dwll dinistr!