Salm 35:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. O ARGLWYDD, delia gyda'r rhai sy'n ymladd yn fy erbyn!Ymosod ar y rhai sy'n ymosod arna i!

2. Coda dy darian fach a'r un fawr,a tyrd yma i'm helpu i!

3. Defnyddia dy waywffon a dy bicellyn erbyn y rhai sydd ar fy ôl i.Gad i mi dy glywed di'n dweud, “Gwna i dy achub di!”

4. Rhwystra'r rhai sydd am fy lladd i;coda gywilydd arnyn nhw!Gwna i'r rhai sydd eisiau gwneud niwed i midroi'n ôl mewn dychryn.

5. Gwna nhw fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd gan y gwyntwrth i angel yr ARGLWYDD ymosod arnyn nhw!

6. Pan fydd angel yr ARGLWYDD yn mynd ar eu holau,gwna eu llwybr nhw yn dywyll ac yn llithrig!

7. Roedden nhw wedi gosod rhwyd i'm dal i,a hynny am ddim rheswm!Roedden nhw wedi cloddio twll i mi ddisgyn iddo.

8. Gwna i drychineb annisgwyl ddod ar eu traws nhw!Gad iddyn nhw gael eu dal yn eu rhwyd eu hunain!Gwna iddyn nhw ddisgyn i lawr i dwll dinistr!

9. Bydda i, wedyn, yn gallu moli'r ARGLWYDD,a llawenhau am ei fod wedi fy achub i!

10. Bydd y cwbl ohona i'n datgan,“Pwy sy'n debyg i ti, ARGLWYDD?Ti'n achub y gwan rhag un sy'n rhy gryf iddo –achub y gwan a'r diamddiffynrhag yr un sydd am ddwyn oddi arno.”

11. Mae tystion celwyddog yn codiac yn fy nghyhuddo i ar gam.

12. Maen nhw'n talu drwg i mi am yr holl ddaioni wnes i!Maen nhw eisiau gweld diwedd arna i.

13. Pan oedden nhw'n sâl roeddwn i'n gwisgo sachliain,ac yn mynd heb fwyd yn fwriadol.Roeddwn i'n gweddïo drostyn nhw yn ddi-baid.

14. Roeddwn i'n cerdded o gwmpas yn galarufel y byddwn i'n galaru dros ffrind neu frawd.Roeddwn i'n dal fy mhen yn isel fel un yn galaru ar ôl ei fam.

15. Ond roedden nhw wrth eu boddau pan wnes i faglu!Dyma nhw'n dod at ei gilydd yn fy erbyn – wn i ddim pam –roedden nhw'n llarpio fel anifeiliaid gwylltion.

Salm 35