Salm 34:8-20 beibl.net 2015 (BNET)

8. Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy'r ARGLWYDD!Mae'r rhai sy'n troi ato am loches wedi eu bendithio'n fawr!

9. Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, chi sydd wedi eich dewis ganddo,mae gan y rhai sy'n ffyddlon iddo bopeth sydd arnyn nhw ei angen!

10. Mae llewod ifanc yn gallu bod heb fwyd ac yn llwgu weithiau,ond fydd dim angen ar y rhai hynny sy'n troi at yr ARGLWYDD am help.

11. Dewch, blant, gwrandwch arna i.Dysga i chi beth mae parchu'r ARGLWYDD yn ei olygu.

12. Ydych chi eisiau mwynhau bywyd?Ydych chi eisiau byw yn hir a bod yn llwyddiannus?

13. Rhaid i chi reoli'ch tafod a stopio twyllo!

14. Troi cefn ar ddrwg a gwneud beth sy'n dda;a gwneud eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb.

15. Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn,ac yn gwrando'n astud pan maen nhw'n galw arno.

16. Ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni –bydd yn cael gwared â phob atgof ohonyn nhw o'r ddaear.

17. Pan mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn gweiddi am help,mae'r ARGLWYDD yn gwrando,ac yn eu hachub nhw o'u holl drafferthion.

18. Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau.Mae e'n achub y rhai sydd wedi anobeithio.

19. Mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion,ond bydd yr ARGLWYDD yn eu hachub nhw drwy'r cwbl!

20. Mae'n amddiffyn eu hesgyrn,fydd dim un yn cael ei dorri!

Salm 34