Salm 34:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i am ganmol yr ARGLWYDD bob amser;a'i foli'n ddi-baid!

2. Dw i am frolio'r ARGLWYDD!Bydd y rhai sy'n cael eu cam-drinyn clywed ac yn llawenhau!

3. Dewch i ganmol yr ARGLWYDD gyda mi!Gadewch i ni ei foli gyda'n gilydd!

4. Ro'n i wedi troi at yr ARGLWYDD am help,ac atebodd fi.Achubodd fi o'm holl ofnau.

5. Mae'r rhai sy'n troi ato yn wên i gyd;does dim mymryn o gywilydd ar eu hwynebau.

6. Dyma i chi ddyn anghenus wnaeth alw arno,a dyma'r ARGLWYDD yn gwrandoac yn ei achub o'i holl drafferthion.

7. Mae angel yr ARGLWYDD fel byddinyn amddiffyn y rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon,ac mae'n eu hachub nhw.

8. Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy'r ARGLWYDD!Mae'r rhai sy'n troi ato am loches wedi eu bendithio'n fawr!

9. Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, chi sydd wedi eich dewis ganddo,mae gan y rhai sy'n ffyddlon iddo bopeth sydd arnyn nhw ei angen!

10. Mae llewod ifanc yn gallu bod heb fwyd ac yn llwgu weithiau,ond fydd dim angen ar y rhai hynny sy'n troi at yr ARGLWYDD am help.

11. Dewch, blant, gwrandwch arna i.Dysga i chi beth mae parchu'r ARGLWYDD yn ei olygu.

Salm 34