4. Achos mae beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud yn iawn;ac mae'r cwbl mae'n ei wneud yn gywir.
5. Mae e'n caru beth sy'n deg ac yn gyfiawn;ac mae ei ofal ffyddlon i'w weld drwy'r byd i gyd.
6. Dwedodd y gair, a dyma'r awyr yn cael ei chreu.Anadlodd, a daeth y sêr a'r planedau i fod.
7. Mae e'n casglu dŵr y moroedd yn bentwr,ac yn ei gadw yn ei stordai.
8. Dylai'r byd i gyd barchu'r ARGLWYDD!Dylai pob person byw ei ofni!
9. Siaradodd, a digwyddodd y peth;rhoddodd orchymyn, a dyna fu.
10. Mae'r ARGLWYDD yn drysu cynlluniau'r cenhedloedd,ac yn rhwystro bwriadau pobloedd.
11. Beth mae'r ARGLWYDD yn ei fwriadu sy'n aros.Mae ei gynlluniau e yn para ar hyd y cenedlaethau.
12. Mae'r genedl sydd a'r ARGLWYDD yn Dduw iddiwedi ei bendithio'n fawr,sef y bobl hynny mae wedi eu dewis yn eiddo iddo'i hun.