Salm 33:11-18 beibl.net 2015 (BNET)

11. Beth mae'r ARGLWYDD yn ei fwriadu sy'n aros.Mae ei gynlluniau e yn para ar hyd y cenedlaethau.

12. Mae'r genedl sydd a'r ARGLWYDD yn Dduw iddiwedi ei bendithio'n fawr,sef y bobl hynny mae wedi eu dewis yn eiddo iddo'i hun.

13. Mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd;ac mae'n gweld y ddynoliaeth gyfan.

14. Mae'n syllu i lawr o'i orseddar bawb sy'n byw ar y ddaear.

15. Mae wedi gwneud pawb yn wahanol,ac mae'n sylwi ar bopeth maen nhw'n ei wneud.

16. Nid byddin fawr sy'n achub y brenin;na'i gryfder ei hun sy'n achub milwr dewr.

17. Dydy march rhyfel ddim yn gallu ennill brwydr;er ei fod mor gryf, dydy e ddim yn gallu achub.

18. Yr ARGLWYDD sy'n gofalu am ei bobl,sef y rhai sy'n credu ei fod e'n ffyddlon.

Salm 33