Salm 33:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Chi rai cyfiawn, canwch yn llawen i'r ARGLWYDD!Mae'n beth da i'r rhai sy'n byw'n gywir ei foli.

2. Molwch yr ARGLWYDD gyda'r delyn;canwch iddo ar yr offeryn dectant.

3. Canwch gân newydd iddoi gyfeiliant hyfryd a bwrlwm llawenydd.

4. Achos mae beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud yn iawn;ac mae'r cwbl mae'n ei wneud yn gywir.

5. Mae e'n caru beth sy'n deg ac yn gyfiawn;ac mae ei ofal ffyddlon i'w weld drwy'r byd i gyd.

6. Dwedodd y gair, a dyma'r awyr yn cael ei chreu.Anadlodd, a daeth y sêr a'r planedau i fod.

Salm 33