Salm 30:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i'n dy ganmol di, O ARGLWYDD,am i ti fy nghodi ar fy nhraed;wnest ti ddim gadael i'm gelynion ddathlu.

2. O ARGLWYDD, fy Nuw,gwaeddais arnat tia dyma ti'n fy iacháu i.

3. O ARGLWYDD, codaist fi allan o fyd y meirw;a'm cadw rhag disgyn i'r bedd.

4. Canwch i'r ARGLWYDD, chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon,a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!

5. Dim ond am foment mae e'n ddig.Pan mae'n dangos ei ffafr mae'n rhoi bywyd.Gall rhywun fod yn crïo wrth fynd i orwedd gyda'r nos;ond erbyn y bore mae pawb yn dathlu'n llawen.

Salm 30