Salm 3:3-8 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ond ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o'm cwmpas.Ti ydy'r Un dw i'n brolio amdano!Ti ydy'r Un sy'n rhoi hyder i mi.

4. Dim ond i mi weiddi'n uchel ar yr ARGLWYDD,bydd e'n fy ateb i o'i fynydd cysegredig. Saib

5. Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro,am fod yr ARGLWYDD yn gofalu amdana i.

6. Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyrsy'n ymosod arna i o bob cyfeiriad.

7. Côd, ARGLWYDD!Achub fi, O fy Nuw.Rho glatsien iawn i'm gelynion i gyd.Torra ddannedd y rhai drwg.

8. “Yr ARGLWYDD sy'n achub!”Rwyt ti'n bendithio dy bobl! Saib

Salm 3