Salm 3:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. O ARGLWYDD, mae gen i gymaint o elynion!Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i.

2. Mae cymaint ohonyn nhw'n dweud,“Fydd Duw ddim yn dod i'w achub e!” Saib

3. Ond ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o'm cwmpas.Ti ydy'r Un dw i'n brolio amdano!Ti ydy'r Un sy'n rhoi hyder i mi.

4. Dim ond i mi weiddi'n uchel ar yr ARGLWYDD,bydd e'n fy ateb i o'i fynydd cysegredig. Saib

5. Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro,am fod yr ARGLWYDD yn gofalu amdana i.

6. Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyrsy'n ymosod arna i o bob cyfeiriad.

7. Côd, ARGLWYDD!Achub fi, O fy Nuw.Rho glatsien iawn i'm gelynion i gyd.Torra ddannedd y rhai drwg.

Salm 3