Salm 25:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Byddan nhw'n mwynhau bywyd,a bydd eu plant yn etifeddu'r tir.

14. Mae'r ARGLWYDD yn rhoi arweiniad i'w ddilynwyr ffyddlon;ac mae'n dysgu iddyn nhw oblygiadau'r ymrwymiad wnaeth e.

15. Dw i'n troi at yr ARGLWYDD am help bob amser,am mai fe sy'n fy ngollwng i'n rhydd o rwyd y gelyn.

16. Tyrd ata i, bydd yn garedig a helpa fi,dw i ar fy mhen fy hun, ac yn dioddef.

17. Achub fi o'r helbul dw i ynddo;gollwng fi'n rhydd o'r argyfwng yma.

18. Edrych arna i'n dioddef mewn poen!Maddau fy holl bechodau!

19. Edrych gymaint o elynion sydd gen i!Maen nhw'n fy nghasáu i, ac am wneud niwed i mi!

20. Amddiffyn fi, ac achub fi!Paid gadael i mi gael fy siomi,achos dw i wedi troi atat ti am loches.

21. Amddiffyn fi, am fy mod i'n onest ac yn agored hefo ti;dw i'n dibynnu arnat ti, ARGLWYDD!

22. O Dduw, gollwng Israel yn rhyddo'i holl drafferthion!

Salm 25