Salm 25:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. O ARGLWYDD, dw i'n troi atat ti mewn gweddi.

2. Fy Nuw, dw i'n dy drystio di; paid â'm siomi;paid gadael i'm gelynion gael hwyl ar fy mhen.

3. Does neb sy'n dy drystio di yn cael ei siomi.Y rhai sy'n twyllo fydd yn methu,nhw fydd yn cael eu siomi!

4. Dw i eisiau dy ddilyn di, ARGLWYDD;dysga dy ffyrdd i mi.

5. Arwain fi ar y ffordd iawn a dysga fi,achos ti ydy'r Duw sy'n fy achub i.Dw i'n dibynnu arnat ti bob amser.

6. O ARGLWYDD, cofia dy fod yn Dduw trugarog a ffyddlon –un felly wyt ti wedi bod erioed!

7. Paid dal yn fy erbyn y pechodaua'r holl bethau wnes i o'i le pan oeddwn i'n ifanc.Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD;rwyt ti'n Dduw mor ffyddlon.

8. Mae'r ARGLWYDD yn dda ac yn hollol deg,felly mae e'n dangos i bechaduriaid sut dylen nhw fyw.

9. Mae'n dangos y ffordd iawn i'r rhai sy'n plygu iddoac yn eu dysgu nhw sut i fyw.

10. Mae'r ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon,ac mae'r rhai sy'n cadw amodau'r ymrwymiad wnaeth eyn gallu dibynnu'n llwyr arno.

11. Er mwyn dy enw da, O ARGLWYDD,maddau'r holl ddrwg dw i wedi ei wneud– mae yna gymaint ohono!

12. Mae'r ARGLWYDD yn dangos i'r rhai sy'n ffyddlon iddosut dylen nhw fyw.

13. Byddan nhw'n mwynhau bywyd,a bydd eu plant yn etifeddu'r tir.

14. Mae'r ARGLWYDD yn rhoi arweiniad i'w ddilynwyr ffyddlon;ac mae'n dysgu iddyn nhw oblygiadau'r ymrwymiad wnaeth e.

Salm 25