Salm 24:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yr ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi;y byd, a phawb sy'n byw ynddo.

2. Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd,a'i sefydlu ar ffrydiau'r dyfnder.

3. Pwy sy'n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD?Pwy sy'n cael sefyll yn ei deml sanctaidd? –

4. Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn a'i gymhellion yn bur;yr un sydd ddim yn twylloneu'n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.

5. Mae'r ARGLWYDD yn bendithio pobl felly;byddan nhw'n cael eu derbyni berthynas iawn gyda'r Duw sy'n achub.

Salm 24