Salm 22:3-7 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ti ydy'r Duw Sanctaidd!Rwyt ti'n eistedd ar dy orsedd,ac yn derbyn mawl pobl Israel.

4. Ti oedd ein hynafiaid ni'n ei drystio.Roedden nhw'n dy drystio dia dyma ti'n eu hachub nhw.

5. Dyma nhw'n gweiddi arnat tia llwyddo i ddianc;Roedden nhw wedi dy drystio di,a chawson nhw mo'i siomi.

6. Dw i'n neb. Pryf ydw i, nid dyn!Dw i'n cael fy wfftio gan bobl, a'm dirmygu.

7. Dw i'n destun sbort i bawb.Maen nhw'n gwneud ystumiau arna i,ac yn ysgwyd eu pennau.

30-31. Bydd plant yn ei wasanaethu;a bydd enw'r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddii'r genhedlaeth sydd i ddod.Byddan nhw'n dweud am ei gyfiawnderwrth y rhai sydd ddim eto wedi eu geni!Ie, dweud beth mae e wedi ei wneud!

Salm 22